Wednesday, February 27, 2013

Cyhoeddwr a Chyflwynydd Traffig a Thywydd


Job Ref. No
1001445
Location
Cardiff
Contract Type
Continuing
Contract Duration
Continuing
Job Category:
Content Making
Closing date for applications
5 March 2013 at 11:59pm

Department

Mae Radio Cymru yn orsaf radio genedlaethol sydd yn darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r orsaf yn ceisio gwasanaethu siaradwyr Cymraeg o bob oedran a diddordeb. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni cerddoriaeth, rhaglenni dogfen, rhaglenni trafod gwleidyddiaeth, crefydd, y celfyddydau a llawer mwy heb son am gynnig gwasanaeth newyddion a chwaraeon llawn. Ceir staff drwy Gymru gyfan ond mae dwy brif ganolfan un yng Nghaerdydd a'r llall ym Mangor. 

Role

Wedi eich lleoli yng Nghaerdydd, byddwch yn ysgrifennu a darlledu'r newyddion tywydd a thraffig diweddara yn ôl y gofyn ac yn darllen bwletinau newyddion ar benwythnosau yn ôl y gofyn. Byddwch o’r stiwdio gyswllt yn chwarae a monitro rhaglenni sydd wedi eu recordio, yn cyflwyno rhaglenni, chwarae trêls a llenwi rhwng amrywiol rhaglenni yn ôl y gofyn neu pan fo anawsterau technegol yn gofyn bod angen cynnal darllediadau Radio Cymru.
Bydd angen i chi ymgymryd â chyfrifoldeb golygyddol ar yr awyr pan fo angen gwneud hynny a monitro a chydymffurfio rhaglenni byw tra’n bod yn ddolen gyswllt hefyd rhwng rhaglenni.

Byddwch yn rhannu cyfrifoldebau dros waith gweinyddol a pharatoi rhaglenni yn y swyddfa yn ôl y gofyn ac yn rhoi cymorth gydag amrywiol ddyletswyddau yn ymwneud â rhaglenni a systemau busnes a darlledu Radio Cymru.

Requirements

Mae’n hanfodol bod gennych lais darlledu clir ag eglur, ynghyd â Chymraeg o safon uchel. Bydd gwybodaeth drylwyr gennych hefyd am raglenni Radio Cymru, a gwybodaeth am gyfeiriad golygyddol yr orsaf ynghyd â gwerthfawrogiad o natur a naws cyflwyno ar yr orsaf a sain cyffredinol Radio Cymru.

Byddwch yn gallu canolbwyntio dan bwysau a bydd dealltwriaeth drylwyr o’r canllawiau golygyddol gennych, ynghyd ag adnabyddiaeth dda o’r prosesau a’r cyfrifoldebau cydymffurfio, gan gynnwys cydymffurfio rhaglenni byw. Byddwch yn gallu defnyddio offer technegol mewn stiwdio yn hyderus a bydd gennych sgiliau TG a defnyddio’r we.

Bydd gwybodaeth ynghylch sut mae Radio Cymru yn hyrwyddo rhaglenni a dealltwriaeth o’r gynulleidfa yn fuddiol.

Mae’r swydd yn gofyn am hyblygrwydd o ran oriau gan fod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol yn ystod yr wythnos, penwythnosau a gwyliau banc.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Owain Arfon Williams 0122206 owainarfon.williams@bbc.co.uk

This is an advert for an Announcer (Radio Cymru). The ability to communicate effectively through the medium of Welsh, both orally and written, is essential for this role.

Popular Posts