Sunday, December 30, 2012

Cydlynydd Cynhyrchu (Pobol y Cwm)


Job Ref. No
961894
Location
Cardiff
Contract Type
Attachment/Fixed Term
Contract Duration
05 months
Job Category:
Content Making
Closing date for applications
9 January 2013 at 11:59pm

Department

Pobol y Cwm yw opera sebon teledu hynaf y BBC a darlledwyd y bennod gyntaf ar 16 Hydref 1974. Ers 1988 mae'r gyfres wedi cael ei darlledu 5 noson yr wythnos a dyma pryd ddechreuwyd ail-ddangos y rhaglen gydag is-deitlau Saesneg.

Role

Pwrpas y rôl yw i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr golygyddol er mwyn darparu cynnwys ardderchog, nodedig, aml-lwyfan drwy ddarparu ffyrdd i wireddu uchelgeisiau golygyddol o fewn cyfyngiadau gweithredol ac ariannol. Bydd disgwyl i chi gydlynu cynnyrch yn broffesiynol drwy ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a phrofiad rheoli cynhyrchu arbenigol.

Requirements

Rydym yn chwilio am Gydlynydd Cynhyrchu profiadol gyda sgiliau trefnu cryf i roi cymorth i'r Cynhyrchydd Gweithredol, timoedd Cynhyrchu a golygyddol i wneud gwaith cynllunio effeithiol a rhedeg yr adran yn ddidrafferth. Bydd gennych yr allu i weithio ar eich liwt eich hun yn ogystal â gweithio fel rhan o dîm.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

This is an advert for a Production Coordinator. The ability to communicate effectively through the medium of Welsh is essential for this role.

Popular Posts